Amdanom ni

Rydym ni wirioneddol wedi ein cyffroi gan fenter Economi Gylchol Cymru (EGC) i gyflwyno a threialu’r CELYN. Gellir ystyried y CELYN i fod yn arian cyfred cyntaf ‘ni ein hunain’ sy’n perthyn i Gymru, am mai dim ond yma yng Nghymru y gellir ei ddefnyddio. Mae aelodau Celyn yn ei ddefnyddio i gaffael y nwyddau hanfodol sydd eu hangen i weithredu byddin Cymru o fusnesau bach. Mae’r gallu i ad-dalu am unrhyw nwyddau a dderbynnir yn digwydd drwy werthu stoc sydd heb eu defnyddio yn ôl i mewn i’r gylchred o fewn deuddeg mis. Mae’r ‘gefnogaeth’ ar gyfer llinellau credyd a gynigir yn dod felly o du fewn i gymuned fusnes fechan Cymru ei hun - sydd yn 99.6 y cant o fusnesau Cymru, ag iddynt drosiant o dros £45 biliwn y flwyddyn,

Y canlyniad? Mae defnyddio Credyd Cydfuddiannol yn helpu hylifedd sterling busnesau bach.

Mae EGC yn adrodd bod Credyd Cydfuddiannol yn Y Swistir – y WIR – wedi helpu busnesau bach a chanolig Y Swistir yn y modd yma ers 1934. Yn fwy diweddar, fe wnaeth y SARDEX yn Sardinia gynorthwyo Sardinia a thir mawr Yr Eidal ers dirywiad 2010 yn yr economi, drwy helpu busnesau bach i gadw eu pennau uwchlaw’r dŵr wrth achub swyddi lleol a gwasanaethau hanfodol.

Mae Credyd Cydfuddiannol felly yn arian cyfred ‘cyfategol’ yn hytrach na ‘dewis amgen’ i arian cyfred confensiynol, gyda phob credyd yn ‘gyfwerth’ o ran gwerth i’r sterling, er na ellir ei drosi iddo. Mae aelodau cylchred CELYN yn helpu ei gilydd gyda chyllid di-log i hwyluso heriau hylifedd yn ffordd hynod deg o ddefnyddio eu galluedd masnachol dros ben er budd economi Cymru – byffer da yn erbyn y cnociau ddaw o’r amgylchedd busnes anffafriol sydd ohoni.

Eifion Williams

Eifion Williams

Eifion yw Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Buddiannau Cymuneddol Economi Gylchol Cymru a sylfaenydd CELYN Cyf. Eleni, ef oedd Cymrawd cyntaf Global Acumen 2020 Cymru, a Chymrawd Churchill 2018, gan ysgrifennu ‘Cyfoeth Cylchol Cymru’, adorddiad sydd yn darparu argymhellion ar gyfer System Credyd Cydfuddiannol i Gymru, a gyhoeddwyd y llynedd.

Fe gynorthwyodd i ddatblygu Pentref Dim Gwastraff cyntaf Cymru, ac mae’n Sylfaenydd a Chadeirydd Cymuned Y Mwynglawdd Cyf, cynllun Cyfranddaliadau Cymunedol i helpu ailagor tafarn a thŷ bwyta cymunedol.

He helped develop Wales’s first Zero Waste Village and is Founder and Chair of Minera Community Ltd, leading a successful Community Share scheme to reopen a community pub and restaurant. 

Malcolm Hayday

Malcolm Hayday FESA, CBE. Cynghorydd: Sylfaenydd Grŵp Llywio CELYN, Prif Swyddog Gweithredol Charity Bank UK

Yn dilyn gyrfa mewn bancio rhyngwladol, ymunodd Malcolm â’r Sefydliad Cymorth i Elusennau i arloesi ymchwil ac arbrofi ym maes darparu cyllid cymdeithasol. Arweiniodd hyn at lansio, yn 2002, The Charity Bank, yr unig elusen gyffredinol gofrestredig a banc awdurdodedig yn y byd. Malcolm oedd prif weithredwr sefydlol y banc.

Bu’n Llywydd sefydliad buddsoddwyr cymdeithasol rhyngwladol INAISE; Cadeirydd Sefydliad The Big Issue; aelod o’r Grŵp Cynghori o arweinyddion sefydliadau byd-eang i Fforwm Economaidd Y Byd.

Cydlynodd Malcolm y Papur Gwaith a adolygwyd gan gymhreiriaid, Values Based Banking ar gyfer Ymchwiliad Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig i ddyluniad system o gyllido cynaliadwy. Mae’n Uwch Gymrawd gyda’r Finance Innovation Lab. Yn fwyaf diweddar, bu’n gyd-awdur “Recipe Book for Social Finance” ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd, ac roedd yn arbenigwr ariannol iddynt ar ddulliau arloesol o ddefnyddio cyllid cymdeithasol.

Filler

Robert Little: Aelod Bwrdd EGC, BSc MPhil MBA CEnv FICE FIHT MICWM

Mae Robert yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddo 30 mlynedd o brofiad o’r diwydiant gwastraff, ac wedi gweithio yn y sector cyhoeddus a phreifat yn ogystal â’r sector cymunedol. Mae Robert yn gadeirydd Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) yng Nghymru ac yn Gadeirydd Bwrdd Hyfforddi ac Ymgynghorol y Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB).

Mae Robert yn berchen ar ac yn rheoli busnes rheoli cyfleusterau sydd yn darparu gwasanaethau i’r sector preifat a chyhoeddus, ac mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar nifer o fusnesau cysylltiedig eraill.