Cyfleuster credyd di-log? Sut mae o’n gweithio?
Mae llyfrau system CELYN, o’r hyn sydd wedi ei fenthyg a’i brynu, yn dychwelyd i Sero bob tro. Nid yw’r system yn ei chyfanrwydd yn mynd i’r coch, felly mae’n gallu osgoi codi llog ar ei haelodau.
Sut fydd CELYN yn cynnal ei hun?
Yn dilyn y cyfnod peilot, ble mae modd ymuno â’r CELYN yn rhad ac am ddim, bydd ffi flynyddol fechan neu % o’r ffi trafodiad yn cael ei chodi.
Beth am drethi?
Rhaid i drethi gael eu talu mewn Punnoedd Prydeinig (GBP). Os oes angen talu treth ar yr eitem, yna bydd y gyfran honno yn cael ei thalu mewn GBP yn y ffordd arferol. Dyna pam bydd CELYN yn gallu caniatáu trafodiadau cyfunol, yn hanner CELYN / hanner GBP, er mwyn i fusnes elwa o’r hylifedd ychwanegol y mae CELYN yn helpu i’w greu heb golli arian parod GBP pan fo angen.
Sut ydw i’n defnyddio CELYN yn fy nghyfrifon busnes?
Mae CELYN yn integreiddio’n rhwydd i’ch cyfrifon busnes fel dull arall o dalu neu linell arall ar eich mantolen.
Fedra i adael heb dalu fy nghyfleuster credyd?
Os byddwch yn gadael â chithau mewn gorddrafft, bydd y ffi ymadael gywerth â balans eich credyd a bydd angen ichi ei setlo. Os byddwch yn gadael gyda balans gadarnhaol, bydd gennych chi ddeuddeg mis i wario’r hyn sydd weddill cyn i’ch cyfrif gael ei gau.
Ar gyfer beth ydw i’n defnyddio’r arian lleol yma?
Cewch leihau’r arian sydd yn cael ei dalu allan i gyflenwyr lleol, a phrynu nwyddau a gwasanaethau newydd heb wario arian parod. Talwch am fanteision lleol ar gyfer eich tîm heb orfod talu’r bil mewn punnoedd.
Os yw busnes rydych chi eisoes yn gweithio gyda nhw, neu am weithio gyda nhw eisoes ar y rhwydwaith, mi fedrwch chi gadw’ch arian parod yn y banc a pharhau i brynu ganddyn nhw drwy ddefnyddio CELYN.
Ydy o’n debyg i ffeirio?
Mae ‘Credyd Cydfuddiannol’ yn wahanol i ffeirio am fod gennych chi falans yn yr aelodaeth CELYN ehangach i’w wario gydag unrhyw un sydd wedi eu rhestru yn y farchnad. Gall unrhyw un o aelodaeth CELYN brynu eich rhestriadau chi. Nid yw’n gyfnewid uniongyrchol fel gyda ffeirio.
Ydy o’n debyg i Bitcoin?
Dydy o ddim fel Bitcoin am nad oes angen ichi brynu i mewn i’r arian cyfred yn gyntaf. Rydych yn ymuno â’r CELYN ac yn derbyn eich gorddrafft di-log i gynyddu pŵer gwario’n lleol a rhoi hwb i’ch hylifedd.
Ydy’r systemau hyn yn methu?
Yn wir, mae llawer o systemau ‘trosadwy’, sydd wedi eu cefnogi gan arian cyfred confensiynol, wedi methu, h.y. systemau ble gallwch chi brynu arian papur lleol gydag arian papur confensiynol. Mae’r rhain wedi eu creu i fod yn ‘addewid’ i wario’n lleol, gan gychwyn, ar yr un pryd, gylchrediad parhaus o’r papurau hynny yn y gymuned. Pan fo arian yn brin yn ystod dirwasgiad, mae pobl yn eu trosi yn ôl. Ar yr union adeg pan fo angen rhywfaint o amddiffyniad, mae’r system yn dechrau crebachu. Mae CELYN yn system o ‘Gredyd Cydfuddiannol’ ac nid yw’r broblem hon yn bodoli am nad oes modd eu trosi.
Oes gan fanciau cenedlaethol broblem gyda Chredyd Cydfuddiannol?
Cyn belled nad yw’n drosadwy, h.y. 1. yn cymryd punnoedd gan gwsmeriaid, 2. yn eu cadw’n ddiogel a rhoi cyfrif amdanynt mewn banc heb eu cyffwrdd, 3. yn dosbarthu papurau lleol yn eu lle. Yn y senario hwn mae’r papurau lleol yn cael eu ‘cefnogi’ gan y Bunt Brydeinig (GBP). Mae’r gweithgaredd yma yn weithgaredd bancio ac mae angen ei reoleiddio.
Nid oes angen rheoleiddio Credyd Cydfuddiannol gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) am nad GBP ydyw. Tra’i fod cywerth â GBP, h.y. yr hyn a elwir yn ‘addewid’, a chyda’r un gwerth gwario o fewn yr aelodaeth, mae’n gweithredu fel nodyn o addewid. Mae nodyn o addewid am nwydau gyda’r addewid o dalu mewn nwyddau eraill, yn sefyll y tu allan i’r rheoliad, ac yn hynny o beth, mae’n gallu dechrau gweithio yn ddi-oed heb yr angen am drwyddedau bancio.
Ai ‘arian cyfred amgen’ yw hwn, sydd yn bygwth y bunt?
Na. Mae’n cynyddu hylifedd y bunt Brydeinig (GBP) ar gyfer busnesau bach am eu bod yn osgoi mynd i’w harian parod wrth gefn am bopeth. Hefyd, nid yw’r ‘WIR’ yn Y Swistir wedi gwneud unrhyw niwed o gwbl i Ffranc Y Swistir, i’r gwrthwyneb! Dyma pam y cyfeirir at ‘Gredyd Cydfuddiannol’, fel y CELYN, fel system o arian cydategol.
Ai dim ond ar gyfer y bobl hynny sydd yn cefnogi mentrau gwyrdd mae’r CELYN?
Yn sicr, mae lleihau pellter cadwyni cyflenwi yn un o fuddiannau arian cydategol sydd wedi ei gyfyngu’n ddaearyddol. Fodd bynnag, mae achos cymdeithasol ac achos amgylcheddol yr achos busnes mor gryf â’i gilydd. Hefyd, mewn gwledydd ble mae Credyd Cydfuddiannol ar fynd, mae’r gefnogaeth yn torri ar draws llinellau gwleidyddiaeth plaid oherwydd ei apêl eang. Yn olaf, mae’r ffaith y bydd y CELYN yn gallu cynnig credyd i fusnesau, cyflogai a chwsmeriaid, fel sydd yn digwydd nawr gyda’r Sardex yn Sardinia , hefyd yn fodd i gadw pawb yn hapus.
Beth yw’r broses o ymuno â’r CELYN?
Ewch i’r wefan (yn fyw adeg y lansio). Cam 1: cofrestru. Bydd CELYN yna’n mynd ati i wirio eich bod yn fusnes cyfreithiol a’ch bod yn masnachu’n foesol. Byddwn yn gwirio gyda Thŷ’r Cwmnïau i weld a oes unrhyw broblemau o bwys. Mae maint y busnes yn cael ei rannu gan ddeg y cant, h.y. y ‘capasiti dros ben’ cyfartalog sydd gan fusnes, a bydd llinell gredyd mewn CELYN yn cael ei chynnig sydd yn chwarter hynny.
Beth yw maint y trafodiadau a wneir?
Mae’r trafodiadau yn gymharol fach, hyd at ychydig filoedd. Pan fydd Busnesau Bach a Chanolig yn dod yn gyfarwydd â’r system, nid yw eu gweithgaredd fel rheol yn mynd tu hwnt i 10% o’u trafodiadau. Fodd bynnag mae Credyd Cydfuddiannol yn glustog werthfawr, ac weithiau yn gwneud byd o wahaniaeth.
Pwy sydd yn rhedeg peilot CELYN?
Cwmni Buddiannau Cymunedol Economi Gylchol Cymru. Yn dilyn y peilot, bydd gweithgaredd yn cael ei rheoli gan gwmni ar wahân, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol CELYN.
Sut daeth y CELYN i fod?
Mae’r holl gefndir i’w gael ar wefan Economi Gylchol Cymru ble mae modd lawrlwytho ‘Adroddiad Cyfoeth Gylchol Cymru’.
Pwy all ymuno?
Tra bydd y CELYN yn ceisio creu rhywfaint o sŵn yn Wrecsam, gan ddefnyddio hwylustod rhwydweithiau rhyng-gysylltiedig mewn un man i adeiladu cefnogaeth; bydd busnesau o unrhyw ran o Gymru yn gallu ymuno o’r cychwyn cyntaf.