Sut rydym yn casglu data amdanoch chi a’ch defnydd o’r wefan hon
Chi sydd yn rheoli pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis peidio â rhannu gwybodaeth, mae’n bosib na fydd rhai ardaloedd o’r wefan yn hygyrch neu ar gael i’w defnyddio. Rydym ni a’n cwmni datblygu penodedig yn casglu gwybodaeth anhysbys am eich defnydd o’r wefan o gwcis a thrwy ddefnyddio tagiau. Mae’n bosib y byddwn yn paru unrhyw wybodaeth a gesglir o’r ffynonellau hyn gydag unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi inni amdanoch chi eich hun at y dibenion a eglurir yn y polisi hwn. Ffeiliau data bach yw cwcis sydd yn cael eu danfon i’ch porwr ac mae tagiau picsel yn cael eu defnyddio i ddarllen y cwcis yma. Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig ond gallwch ddileu cwcis sydd yn bodoli eisoes o’ch porwr a, thrwy olygu yn eich opsiynau porwr, dewis peidio â derbyn cwcis yn y dyfodol.
Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â gwefan, mae ffeil fechan a elwir yn gwci yn cael ei gosod ar eich cyfrifiadur. Mae llawer o wefannau yn defnyddio cwcis i weithredu, neu i weithredu’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.
Dolenni i wefannau eraill
Mae’r dolenni o fewn y wefan hon yn cael eu defnyddio i ychwanegu gwerth ychwanegol i’r wefan. Byddwn bob amser yn ceisio gwneud y dolenni hyn yn eglur, fel eich bod yn gwybod eich bod wedi gadael ein gwefan. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod y gwefannau hyn yn eiddo i gwmnïau a sefydliadau eraill, ac mai nhw sydd yn eu rhedeg, ac ni fedrwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wybodaeth y byddwch yn dewis ei datgelu i wefan gysylltiedig.
Data Ystadegol
Rydym yn ceisio rhoi’r profiad gorau y gallwn i ddefnyddwyr y wefan. I’n helpu i gyflawni’r nod yma efallai y byddwn yn dadansoddi data anhysbys a gesglir gan gwcis ynglŷn â sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Mae data o’r fath yn ein cynorthwyo i fesur llwyddiant ein hymgyrched hysbysebu. Mae’n bosib hefyd y byddwn yn casglu cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd i’n helpu i ddadansoddi problemau gyda’n gweinyddion ac i ddibenion gweinyddu’r system; nid yw’r cyfeiriadau yma wedi eu cysylltu ag unrhyw unigolion.
Newidiadau i’r polisi hwn
Mae’r wefan hon yn cael ei gwella’n gyson, felly mae’n bosib y bydd newidiadau i’r modd yr ydym yn defnyddio eich data. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu diweddaru ar unwaith yn y polisi hwn.