Ychwanegwch eich enw cyn y cyflwyniad Cymru gyfan.
Nid oes angen yr un cerdyn credyd na manylion banc i gofrestru i fod yn aelod.
Cofrestrwch i gael cyfrif gyda’r ffurflen isod. I’ch cymeradwyo, bydd eich cais yn cael ei asesu i gadarnhau eich bod yn fusnes bach a chanolig yng Nghymru. Byddwn yn cysylltu’n fuan i ddysgu mwy am eich busnes a sut gall y Celyn eich helpu chi.
Unwaith ichi gael eich cymeradwyo byddwch yn gallu defnyddio ap gwefan Celyn a’r ap symudol i fasnachu gyda busnesau bach a chanolig eraill yn eich ardal a thu hwnt yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi credydau Celyn ichi, i brynu cynnyrch a gwasanaethau gan fusnesau eraill yng nghylchred y Celyn – gan gadw eich arian parod ar gyfer gofynion eraill.
Yn ein cyfnod cyntaf, mae modd ymuno yn rhad ac am ddim. Mae systemau credyd cydfuddiannol fel hyn sydd yn helpu busnesau yn llwyddiannus mewn mannau eraill yn y byd yn codi ffi, er bod hynny’n llawer llai na chostau cyllid benthyciad. Wedi’r cyfnod cychwynnol, ar gyfer y rhai hynny sydd yn ymuno’n gynnar, rydym yn disgwyl codi ffi.
Tan hynny, mi fedrwch ymuno â’r CELYN yn rhad ac am ddim!
Pam ydym ni’n gwneud hyn? Wel yn gyntaf, mae’r cyfnod cychwynnol wedi ei gyllido’n gyhoeddus, ac yn ail, byddwn yn gofyn i chi, aelodau CELYN, ddarparu adborth cwsmer a bod yn amyneddgar wrth inni dyfu rhwydwaith o fusnesau i fasnachu â nhw. Ein haelodaeth rad ac am ddim ar hyn o bryd yw ein hymrwymiad i adeiladu’r CELYN gyda chi
- Ar gyfer yn 100 cyntaf sydd yn ymuno byddwch yn derbyn tair blynedd o aelodaeth CELYN am ddim hyd yn oed wedi’r cyfnod cyntaf
- Ar gyfer yr ail 100 sydd yn ymuno byddwch yn derbyn dwy flynedd o aelodaeth CELYN wedi’r cyfnod cyntaf
- Ar gyfer y trydydd 100 sydd yn ymuno byddwch yn derbyn blwyddyn o aelodaeth CELYN wedi’r cyfnod cyntaf
I ymuno a manteisio ar y cynnig hwn, llenwch y ffurflen isod ac fe gysylltwn ni â chi.