Os hoffech chi ddod i wybod am y Celyn a sut mae’n gweithio, rydym yn hapus i gynnig arddangosiad byr.
Mae hyn yn rhad ac am ddim. Dim pwysau arnoch. I’ch helpu i ddeall sut mae’r Celyn yn gweithio a sut mae’n gallu helpu busnes bach a chanolig fel eich un chi i gadw gafael ar ei arian parod a thyfu.
Bydd ein sesiwn demo yn dangos ichi sut mae’r ap a’r wefan yn gweithio – sut y gallwch chi wario credydau Celyn gyda busnesau eraill i gael y pethau sydd eu hangen arnoch. Byddwn yn dangos ichi sut i reoli cyfrif ac adeiladu rhwydwaith o gwsmeriaid a chyflenwyr.
Os ydych chi’n meddwl y gall y Celyn fod o fudd i’ch busnes, a’ch bod am wybod mwy, yna cysylltwch â ni.